Date: Sat 24 Aug 2013

Canlyniadau'r Penwythnos Agoriadol

Y Seintiau Newydd 6 Port Talbot 0

Dangosodd Y Seintiau’n gwbl glir nad oes ganddyn nhw unrhyw fwriad i ildio’u coron y tymor hwn wrth iddyn nhw ddisgleirio yn erbyn Port Talbot. Er i’r ymwelwyr – oedd yn croesawu Rhys Griffiths yn ôl i’w rhengoedd, chwarae’n dda – ‘roedd chwarae’r Pencampwyr yn arbennig.
Sgoriodd Ryan Fraughan gic rydd wych wedi 21 munud ac yna’n yr ail hanner fe reolodd y Pencampwyr yn llwyr. 7 munud wedi troi peniodd Mike Wilde yn ddewr i’w gwneud hi’n ddwy i ddim a rhwydodd Alex Darlington ei gic o’r smotyn yn gyfforddus wedi i Lee Surman lawio yn y cwrt cosbi.
Daeth Greg Draper i’r maes fel eilydd wedi 65 munud ac fe sgoriodd gyda’i gyffyrddiad cyntaf. Hawliodd ei ail wedi 70 munud a rhwydodd drydedd gofiadwy o’r tu allan i’r cwrt gyda 10 munud ar ôl – tair mewn cyfnod o chwarter awr. Perfformiad gwych gan Draper a’r Pencampwyr.


Y Rhyl 0 Aberystwyth 3

Siom gafodd Y Rhyl wrth ddychwelyd i UGC-Corbett Sports wrth i Aberystwyth dalu’r pwyth am eu colled yng Nghwpan Cymru y tymor diwethaf.
Sgoriodd Stuart Jones yn ei gêm wedi 6 munud ac roedd yr ysgrifen ar y mur wedi i Liam Benson gael ei hel o’r cae wedi 34 munud am dacl beryglus. Bum munud wedi troi dyblwyd mantais Aber gan Mark Jones a seliwyd y triphwynt gan Chris Venables gyda chwarter awr ar ôl.

Airbus UK 1 Caerfyrddin 0

Gôl yn amser yr amen gan Richie Partridge oedd y gwahaniaeth rhwng y timau ar y Maes Awyr wrth i Airbus wneud yn iawn am golli i sgôr hwyr gan Liam Thomas y tymor diwethaf.

Gap Cei Connah 0 Lido Afan 0

Lido Afan fydd yr hapusaf o’r ddau glwb wrth iddyn nhw hawlio pwynt gwerthfawr yn Stadiwm Glannau Dyfrdwy brynhawn Sadwrn.

Drenewydd 0 Bangor 1

Roedd gôl Les Davies gyda 3 munud ar ôl yn ddigon i hawlio’r fuddugoliaeth i dîm Neville Powell ar Barc Latham.

Prestatyn 4 Bala 1

Dangosodd Prestatyn eu bwriad ar gyfer y tymor yn glir ar Erddi Bastion nos Wener wrth iddyn nhw drechu’r Bala o 4-1.
Andy Parkinson hawliodd gôl gynta’r tymor wedi 28 munud ac fe rwydodd ei ail ddau funud wedi’r egwyl hefyd. Ychwanegodd Mike Parker drydedd wedi bron i awr o chwarae ac er i Ian Sheridan sgorio i’r Bala gyda 26 munud ar ôl – Lee Hunt gafodd y gair olaf.
Wedi 69 munud fe rwydodd cyn brif sgoriwr Y Bala yn erbyn ei gyn glwb gan rwbio halen i friwiau’r Bala o flaen torf o 559

Don't worry, we hate spam as much as you do. We will only send you the latest updates and anything we think you will enjoy reading about.

Hit enter to send your tweet

Go to Youtube Channel
Aber's starlet Rhydian talks to the FAW from International Camp