Date: Mon 25 Mar 2013

Timmy Edwards Inducted Into Hall of Fame

Oriel yr Anfarwolion - Timmy Edwards yn Hawlio'i Le

Timmy Edwards

Timmy Edwards

Legendary defender Timmy Edwards is the latest inductee to the Welsh Premier League Hall of Fame.

After playing for Rhyl and Bangor, Edwards was captain of Total Network Solutions when the club won the League Championship in 2000 and he represented the club in Europe.

He decided not to turn professional with TNS and returned to Rhyl to enjoy a golden period with the club from 2002.

Edwards was an inspirational captain for Rhyl in the treble season in 2004 and was nominated as the League's Player of the Season. He played in every game for Rhyl in that memorable season and scored 10 goals, even though he was playing in central defence.

After playing over 200 games for Rhyl and setting the club's appearances record in the Welsh Premier, he played for Cefn Druids for two seasons and in 2007, Edwards became only the fourth player ever to reach the milestone of four hundred league appearances.

The gentle giant finished his career at Welshpool in 2010, after sixteen faithful seasons in the Welsh Premier League.


Y cawr o amddiffynnwr Timmy Edwards yw’r nesaf i gael ei urddo i Oriel Anfarwolion Uwch Gynghrair Cymru.

Ar ôl cyfnodau gyda’r Rhyl a Bangor, Edwards oedd capten Total Network Solutions pan enillodd y clwb y Bencampwriaeth yn 2000 a chynrychiolodd y clwb yn Ewrop.

Penderfynodd beidio â throi'n chwaraewr proffesiynol gyda TNS felly dychwelodd i’r Rhyl yn 2002 gan fwynhau cyfnod euraidd gyda’r clwb.

Roedd Edwards yn gapten ysbrydoledig i’r Rhyl yn 2004 pan enillwyd y Trebl a chafodd ei ddewis fel Chwaraewr y Tymor drwy’r gynghrair gyfan. Chwaraeodd ym mhob gêm i’r Rhyl y tymor hwnnw a sgoriodd 10 o goliau er ei fod yn chwarae yng nghanol yr amddiffyn!

Ar ôl chwarae dros ddau gant o gemau i’r Rhyl a gosod record ymddangosiadau’r clwb yn y gynghrair, chwaraeodd i Derwyddon Cefn am ddau dymor ac yn 2007, Edwards oedd dim ond y pedwerydd chwaraewr i gyrraedd y garreg filltir o bedwar cant o gemau’n y gynghrair.

Gorffennodd ei yrfa gyda’r Trallwng yn 2010, ar ôl un tymor ar bymtheg ffyddlon yn Uwch Gynghrair Cymru.