Date: Fri 15 Mar 2013

Steve Evans Enters WPL Hall of Fame

Steve Evans yn Oriel yr Anfarwolion

Steve Evans

Steve Evans

Mae Steve Evans yn un o enwau amlycaf yn ogystal â bod yn un o chwaraewyr mwyaf llwyddiannus Uwch Gynghrair Cymru a fo di'r diweddaraf i gael ei dderbyn i Oriel yr Anfarwolion.

Yn amddiffynnwr cadarn a chryf, ymunodd â'r Seintiau Newydd yn 1999 ac roedd yn un o hoelion wyth y tîm enillod Uwch Gynghrair Cymru yn y flwyddyn 2000.

Llwyddodd i arwain Y Seintiau i'r dwbl yn 2004/05 wrth i'r tîm o Groesoswallt ennill Uwch Gynghrair Cymru a Chwpan Cymru a choronodd dymor arbennig wrth gael ei ddewis yn Chwaraewr y Flwyddyn.

Ar ôl arwain y Seintiau i Bencampwriaeth arall yn 2006, cafodd ei arwyddo gan Wrecsam, lle enillodd 7 cap i dîm rhyngwladol Cymru cyn dychwelyd i Neuadd y Parc yn 2009.

Yn ogystal â bod yn un o gonglfeini amddiffyn y Seintiau, mae Steve yn gallu sgorio hefyd ac mae wedi rhwydo bron i 50 o goliau, gan gynnwys goliau yng Nghynghrair Europa.

Cipiodd Bencampwriaeth arall gyda'r Seintiau yn 2010, cyn casglu ei bedwaredd Pencampwriaeth a dwbl arall yn 2012.

==============================

Steve Evans is one of the Welsh Premier League most prominent and most succesful players and is the latest inductee into the Hall of Fame.

A solid and strong defender, he joined The New saints in 1999 and was one of the cornerstones of a side which won the league title in 2000.

He led the Saints to the double in 2004/05 as the Oswestry side won the Welsh Premier League and the Welsh Cup and his season was crowned when being chosen as the league's Player of the Year.

After leading the Saints to another title in 2006, he was signed by Wrexham where he also won 7 international caps for Wales before returning to Park Hall in 2009.

As well as being one of the mainstays of the Saints' defence, Steve has the ability to score goals ad has netted almost 50 goals in all competitions.

He clinched another championship with the Saints in 2010 before collecting a fourth title and a second double in 2012.

Don't worry, we hate spam as much as you do. We will only send you the latest updates and anything we think you will enjoy reading about.

Hit enter to send your tweet

Go to Youtube Channel
Aber's starlet Rhydian talks to the FAW from International Camp