Date: Sat 02 Feb 2013

Race for Sixth Place Not Over

Y Chweched Safle Heb ei Gadarnhau o Hyd.

Corbett Sports Welsh Premier League Statement regarding Gap Connah’s Quay

Gap Connah’s Quay has been found guilty by a Football Association of Wales Disciplinary Panel of fielding an ineligible player.
The Panel decided to deduct the club one Corbett Sports Welsh Premier League points and fine them £250 for fielding Lee Davey as a late substitute in the league match against Carmarthen Town (5/1/13).
Davey had previously played for Colwyn Bay FC and Conwy Borough FC during the present season and while he was entitled to register for Gap Connah’s Quay – participating for three teams in one season is not permitted.
Gap Connah’s Quay has seven business days in which to appeal the decision. The club is perfectly within its rights to appeal the decision. The Corbett Sports Welsh Premier League is aware that this may impact the beginning of the Second Phase of the Corbett Sports Welsh Premier League.


Datganiad gan Uwch Gynghrair Cymru – Corbett Sports am Gap Cei Connah

Mae Panel Disgyblu Cymdeithas Bêl-droed Cymru wedi dyfarnu bod Gap Cei Connah’n euog o chwarae chwaraewr anghymwys.
Penderfynodd y Panel y dylai Gap Cei Connah golli pwynt Cynghrair a thalu dirwy o £250 am y drosedd o chwarae Lee Davey fel eilydd hwyr yn eu gêm yn erbyn Caerfyrddin (5/1/13).
‘Roedd Davey eisoes wedi chwarae dros Fae Colwyn a Chonwy y tymor hwn a thra fod ganddo berffaith hawl i gofrestru i Gap Cei Connah – nid oedd ganddo’r hawl chwarae i dri thîm gwahanol yn ystod yr un tymor.
Mae gan Gap Cei Connah saith diwrnod busnes i apelio’n erbyn y penderfyniad ac mae ganddynt berffaith hawl i ddilyn y trywydd hwnnw. Mae Uwch Gynghrair Cymru – Corbett Sports yn berffaith ymwybodol y gall hyn amharu ar ddechrau ail ran y tymor.